26 Mai 2022
Annwyl Oliver,
Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE
Ar ran fy nghyd-Aelodau a gynrychiolodd y Senedd yng nghyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE, roeddwn am ddiolch i chi, yr Is-gadeiryddion a’ch cyd-gadeiryddion yn Senedd Ewrop, am drefnu cyfarfod cyntaf llwyddiannus iawn, am estyn gwahoddiad i gynrychiolwyr o’r Senedd, ac am y croeso a roddwyd i’r Aelodau hynny a oedd yn bresennol. Rwyf hefyd yn dymuno diolch i bawb a gyfrannodd at waith yr ysgrifenyddiaeth ar y ddwy ochr am eu holl gymorth.
Fel yr adroddwyd gan Alun Davies AS i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, deallaf y cyfarfod wedi bod yn gyfle i gynnal trafodaethau gonest ynghylch yr anawsterau presennol sy’n wynebu cysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Deallaf ei fod hefyd wedi bod yn gyfle i archwilio meysydd helaeth o ddiddordeb cyffredin, a meysydd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol ar wahanol bynciau, gan gynnwys ynni, newid hinsawdd, ymchwil ac, wrth gwrs, ein rhyddid a’n diogelwch cyfunol.
Fel y soniwyd yn ystod y rhag-gyfarfod a gynhaliwyd gyda chi ac Aelodau o Fureau y DU, rydym yn edrych ymlaen at feithrin y berthynas rhwng y Senedd a dirprwyaeth y DU, ac at gynnal trafodaethau pellach ar y mecanweithiau gorau ar gyfer dyfnhau’r gwaith ymgysylltu hwn. Mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, sy’n ymwneud â materion lle byddai’n ddefnyddiol rhannu gwybodaeth a chlywed am y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar faterion sy’n cael eu trafod (er enghraifft, gwaith ar bolisi hinsawdd a’r amgylchedd), rydym yn mawr obeithio y bydd modd creu lle yn yr agenda er mwyn galluogi cynrychiolwyr o’r deddfwrfeydd datganoledig i wneud cyfraniadau uniongyrchol. Ar ôl siarad â chydweithwyr ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, gwyddom eu bod yn rhannu’r uchelgais hwn, ac rydym yn rhannu’r farn y bydd clywed yn uniongyrchol gan gynrychiolwyr ar y lefel hon yn cyfoethogi ac yn gwella’r trafodaethau pwysig sy’n cael eu cynnal.
Edrychaf ymlaen yn fawr at barhau â thrafodaethau ar waith y Cynulliad gyda chi, dirprwyaeth yCulture Committee" "materion allanol" DU a’n cyd-Aelodau yn Senedd Ewrop.
Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at y Gwir Anrhydeddus Hilary Benn AS a’r Iarll Kinnoull, Is-gadeiryddion dirprwyaeth y DU; Nathalie Loiseau ASE, Cadeirydd dirprwyaeth Senedd Ewrop; Alun Davies AS, aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a Sam Kurtz AS, aelod o’r Pwyllgor; y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd; a Clare Adamson ASA, Cynullydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban.
Yn gywir,
Huw Irranca-Davies
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.